Foreword (Welsh)

Cyflwyniad

Cydnabyddir ansawdd ein system gyfreithiol a’i chyfreithwyr ledled y byd. Mae’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn cyfrannu biliynau o bunnau bob blwyddyn i’n heconomi. Mae safon uchel y rhai sy’n ymuno â’r proffesiynau cyfreithiol fel y’u rheoleiddir ar hyn o bryd i’w phriodoli i system o addysg a hyfforddiant yng Nghymru a Lloegr sy’n uchel ei pharch, ac sydd wedi parhau i ddatblygu dros y blynyddoedd ar yr hyn, hyd yn ddiweddar o leiaf, y gellir yn deg ei ddisgrifio’n gyflymdra hamddenol

Ar wahân i Adroddiad Pwyllgor Cynghori’r Arglwydd Ganghellor ar Addysg ac Ymddygiad Cyfreithiol (ACLEC) yn 1996, na weithredwyd ei argymhellion erioed, cynhaliwyd yr adolygiad mawr diwethaf o addysg a hyfforddiant cyfreithiol ym mhob rhan o’r sector gan yr Arglwydd Ustus Ormrod yn 1971. Yn fwy diweddar, mae Adolygiad Cymdeithas y Cyfreithwyr o’r Fframwaith Hyfforddi yn 2005 ac Adroddiad Wood i Fwrdd Safonau’r Bar yn 2008 a 2011 wedi gwneud newidiadau cynyddol ond dim ond i’w priod gyrff y maent wedi rhoi sylw.

Y farchnad gwasanaethau cyfreithiol bresennol

Fodd bynnag, mae’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol bresennol yn tyfu, ac yn datblygu ac yn newid yn gyflym, o ganlyniad i ddatblygiadau rheoliadol a datblygiadau eraill, yn bennaf Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 a nododd wyth amcan rheoliadol o ran darparu gwasanaethau cyfreithiol fel a ganlyn:

  • diogelu a hyrwyddo budd y cyhoedd;
  • ategu egwyddor gyfansoddiadol rheolaeth y gyfraith;
  • gwella mynediad i gyfiawnder;
  • diogelu a gwella buddiannau defnyddwyr;
  • hyrwyddo cystadleuaeth o ran darparu gwasanaethau;
  • hyrwyddo proffesiwn cyfreithiol annibynnol, cryf, amrywiol ac effeithiol;
  • meithrin dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau a dyletswyddau cyfreithiol y dinesydd;
  • hyrwyddo a sicrhau cydymffurfiaeth â’r egwyddorion proffesiynol a nodwyd.

Pasiwyd Deddf 2007 gyda’r nod o ryddfrydoli’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol, er enghraifft, drwy ganiatáu Strwythurau Busnes Amgen a hyrwyddo modelau newydd arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau cyfreithiol. Mae’r datblygiadau parhaus mewn technoleg; globaleiddio; newidiadau demograffig a chymdeithasol; y galw am well gwerth am arian a thwf prynwriaeth oll wedi newid disgwyliadau o ran yr hyn sy’n ofynnol gan gynghorwyr cyfreithiol a’r rhai sy’n eu hyfforddi.

Ar yr un pryd, mae nifer gynyddol o fyfyrwyr, costau uwch cymhwyso ac anawsterau wrth ddod o hyd i swydd wedi arwain at alwadau i ddiwygio’r system bresennol o addysg a hyfforddiant cyfreithiol. Cymhlethir y sefyllfa ymhellach gan y ffaith, ar wahân i faes cyngor ac anghydfodau corfforaethol, fod diwygiadau yn cael eu hystyried yn erbyn cefndir o gwtogi ar argaeledd cyngor a chynrychiolaeth gymorth cyfreithiol ar gyfer unigolion yn y mwyafrif llethol o anghydfodau sifil a theuluol a chyfyngiadau mwyfwy tyn ar argaeledd a chyllid cymorth cyfreithiol troseddol.

Yr Adolygiad o Addysg a Hyfforddiant Cyfreithiol

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddodd yr Awdurdod Rheoleiddio, Bwrdd Safonau’r Bar a Safonau Proffesiynol ILEX eu bod yn bwriadu sefydlu Adolygiad sylfaenol ar y cyd o ofynion unigolion ac endidau sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol o ran addysg a hyfforddiant cyfreithiol. Mae’r Adolygiad, fel y’i sefydlwyd, yn cynnwys cam ymchwil; ystyriaeth gan y tri rheoleiddiwr comisiynu (yn unigol a, lle y bo’n briodol, gyda’i gilydd) o sut i ymdrin ag unrhyw newidiadau canlynol i’w gofynion addysg a hyfforddiant; ac unrhyw ymgynghoriad ffurfiol y byddai angen ei gynnal o ganlyniad i benderfyniadau’r rheoleiddwyr ynghylch polisi.

Penodwyd Consortiwm Ymchwil UKCLE, o dan arweiniad yr Athro Julian Webb o Brifysgol Warwick, i gynnal cam ymchwil yr Adolygiad ym mis Mai 2011.

Fe’n penodwyd hefyd yn Gyd-gadeiryddion Panel Llywio’r Ymgynghoriad ar gyfer cam ymchwil yr Adolygiad, sy’n cynnwys cynrychiolwyr grwpiau rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ymarferwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant cyfreithiol, defnyddwyr a chyrff rheoleiddio eraill. Bu’r Panel yn gyfrifol am roi cyngor a gwybodaeth i’r tîm ymchwil a’r rheoleiddwyr yn ystod cam ymchwil yr Adolygiad. Drwy chwe chyfarfod o’r Panel a chyfarfodydd ychwanegol ag unigolion a grwpiau, rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod y tîm ymchwil yn gallu derbyn yn uniongyrchol sylwadau pawb sydd â diddordeb yng nghanlyniad yr Adolygiad.

Fodd bynnag, gwaith y tîm ymchwil yn unig, dan arweiniad yr Athro Webb, yw’r adroddiad dilynol a chynnwys yr argymhellion.

Yr adroddiad

Mae’r adroddiad yn adroddiad annibynnol i’r rheoleiddwyr annibynnol. Mae’n cwmpasu Cymru a Lloegr, er yr ystyrir systemau addysg a hyfforddiant mewn awdurdodaethau eraill, lle y bo’n briodol.

Cynnyrch gwaith academaidd y tîm ymchwil ydyw. Bwriedir iddo roi i’r rheoleiddwyr y dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ynghylch polisi addysg a hyfforddiant yn y dyfodol.

Nid yw’r adroddiad yn ceisio rhagfynegi dyfodol y farchnad gwasanaethau cyfreithiol, am fod llawer o ffactorau a allai sbarduno newid yn dal i ddatblygu. Ac nid yw’n nodi strategaeth fanwl nac yn rhagnodi cynnwys addysg a hyfforddiant cyfreithiol yn y dyfodol. Mae’n canolbwyntio ar systemau a strwythurau, yn hytrach na chynnwys.

O ran rhai materion, megis hyfforddiant proffesiynol cyffredin ar gyfer cyfreithwyr a bargyfreithwyr, nid yw’r adroddiad yn cynnwys argymhelliad. Mae’n nodi bod manteision y fath ofyniad i’r system yn amwys ar y gorau ac yn gwahodd trafodaeth bellach.

Yn gyntaf mae’r adroddiad yn nodi’r cyd-destun lle y bydd y rheoleiddwyr comisiynu yn ystyried dyfodol addysg a hyfforddiant cyfreithiol, o gofio eu priod rolau; wedyn mae’n canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant gwasanaethau cyfreithiol, yn hytrach nag addysg academaidd yn y gyfraith, gan adlewyrchu’r angen i sicrhau ansawdd a chymhwysedd pawb sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol, p’un a ydynt yn gwneud hynny o dan deitl proffesiynol sefydledig ai peidio.

Y negeseuon allweddol

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o negeseuon allweddol sy’n sail i’w argymhellion y credwn eu bod yn haeddu cael eu pwysleisio.

Ansawdd a Chystadleurwydd

Fel y nodwyd eisoes, mae ein system gyfreithiol wedi ein gwasanaethu’n dda ers blynyddoedd lawer. Er y gellir bob amser wneud gwelliannau, mae’n hanfodol sicrhau y cynhelir ansawdd ein cyfreithwyr a’r cyngor cyfreithiol a roddant. Rhaid i ni adeiladu ar ein cryfderau presennol. Er bod pynciau dysgu newydd yn cael eu nodi yn yr Adroddiad, ceir meysydd o sgiliau gofynnol nad ydynt yn newid ac mae’n rhaid i ni barhau i’w dysgu. Mae hefyd yn hanfodol cynnal a diogelu cystadleurwydd rhyngwladol cyfraith ac addysg gyfreithiol Cymru a Lloegr.

Hyblygrwydd

Mae ansicrwydd a natur gyfnewidiol y farchnad gwasanaethau cyfreithiol bresennol yn golygu y bydd hyblygrwydd ac ymatebolrwydd yn hanfodol. Felly, er enghraifft, mae angen ystyried llwybrau newydd i gymhwyso (megis prentisiaethau), hwyluso trosglwyddo rhwng disgyblaethau a mwy o hyblygrwydd mewn cyfundrefnau hyfforddi yn drylwyr. Hefyd, bydd technoleg yn parhau i newid y ffordd y caiff y gyfraith ei haddysgu a’i hymarfer.

Rheoli talent

Rhaid i ni hyrwyddo a defnyddio galluoedd y rhai a ddylai lwyddo yn ôl teilyngdod ond sy’n methu â chwblhau’r addysg a’r hyfforddiant cyfreithiol gofynnol neu’n rhoi’r gorau i’w gyrfaoedd yn y gyfraith ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i hyn gynnwys ymdrechu’n galetach i hyrwyddo amrywiaeth a symudedd cymdeithasol o fewn y gweithlu o ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw, yn gywir ddigon, at yr angen am fwy o dryloywder a gwybodaeth hygyrch am gyfleoedd i ddilyn gyrfaoedd mewn gwasanaethau cyfreithiol.

Moeseg

Fel yr eglura’r adroddiad, mae addysgu a chynnal moeseg a gwerthoedd proffesiynol yn allweddol i sicrhau uniondeb wrth weinyddu cyfiawnder ac ansawdd ym mhob rhan o’r sector gwasanaethau cyfreithiol. Mae angen pwysleisio’r ddau wrth addysgu a hyfforddi darparwyr gwasanaethau cyfreithiol.

Ffyrdd newydd o ddysgu

Mae dysgu yn y gweithle yn allweddol i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yn effeithiol. Cyn hyn, bu gofynion disgybledd ar gyfer y bar ymarfer a’r contract hyfforddiant ar gyfer cyfreithwyr yn allweddol i gymhwyso bargyfreithwyr a chyfreithwyr sy’n ymarfer a sicrhau eu hansawdd. Fodd bynnag, gall fod cyfluniadau gwahanol o ‘ymarfer o dan oruchwyliaeth’ mewn ystod fwyfwy eang o gyd-destunau ymarfer. Mae angen dadansoddi’r newid canfyddedig o ddysgu sy’n canolbwyntio ar gynnwys i ddysgu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae angen sicrhau mwy o gysondeb a rhannu safonau. At hynny, mae’n rhaid i ddysgu parhaus helpu i gynnal cymhwysedd parhaus ac mae angen ystyried ymhellach y defnydd o dechnegau megis ail-achredu. Efallai y bydd angen diwygio datblygiad proffesiynol parhaus mewn rhai rhannau o’r sector gwasanaethau cyfreithiol.

Heriau rheoliadol

Bydd rheoleiddwyr yn wynebu nifer o heriau yn y dyfodol,  gan gynnwys sut i nodi a rheoleiddio cyngor a chymorth cyfreithiol cyffredinol a phenderfynu a yw’r fframwaith rheoliadol ei hun yn addas i’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’r adroddiad yn nodi nad oes system addysg gyfreithiol gydlynol, gyffredinol fel y cyfryw. Felly, er mwyn osgoi cystadleuaeth rhwng rheoleiddwyr o ran pwy fydd yn rheoleiddio pwy, anogir y rheoleiddwyr i ystyried cydweithredu’n fwy. Mae enghreifftiau o’r cydweithredu hwn yn cynnwys archif data, siop gyngor a chanolfan ymarfer arloesol; labordy addysg gyfreithiol a system glirio; a Chyngor/Bwrdd/Awdurdod Addysg Gyfreithiol. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nifer o faterion cyffredinol ar gyfer y rheoleiddwyr, y bwriedir iddynt hyrwyddo deilliannau dysgu cyffredin a chysondeb.

Yr angen am ragor o waith

Mae nifer o faterion a nodir yn yr Adroddiad y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach. Maent yn cynnwys, heb bennu unrhyw drefn blaenoriaeth, yr opsiynau ar gyfer addysg a gweithgarwch rheoleiddio sy’n seiliedig ar weithgareddau; y sector gwasanaethau cyfreithiol nas rheoleiddir (dim ond gweithgareddau staff paragyfreithiol a rhai ymarferwyr annibynnol nas rheoleiddir a astudiwyd i unrhyw raddau gan y tîm ymchwil); profiadau defnyddwyr o wasanaethau cyfreithiol; a chasglu data a all wella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n rhwystro mynediad i’r sector gwasanaethau cyfreithiol a datblygiad gyrfa myfyrwyr teilwng yn y sector hwnnw.

Casgliad

Mae’r adroddiad hir-ddisgwyliedig hwn yn darparu deunydd a sylwadau gwerthfawr iawn i lywio penderfyniadau yn y dyfodol gan y rhai sy’n gyfrifol am reoleiddio gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir yng Nghymru a Lloegr a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn sefydlog ac yn llwyddiannus.

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd yr Adolygiad o Addysg a Hyfforddiant Cyfreithiol yn galluogi’r rheoleiddwyr i nodi a gweithredu cynllun strategol ar gyfer sicrhau cymhwysedd ac ymddygiad moesegol ymarferwyr cyfreithiol yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol sy’n newid yn gyflym.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o lunio’r adroddiad, gan gynnwys, yn arbennig, y tîm ymchwil dan arweiniad yr Athro Julian Webb.

 

Y Fonesig Janet Gaymer DBE C.F. (Anrh.) Syr Mark Potter